Pwysigrwydd o fod yn Piloto

Dyma draethawd gan blogwr gwadd, Verónica Policarpo, @VMPolicarpo. Hoffwn ddiolch iddi hi am rannu ei stori creadigol ar y mater o enwau yn ein bywydau pob dydd, ac, yn yr achos yma, yng nghyd-destun anifeiliaid anwes.

For an English version of this essay, please click here.

Portread o piloto_well

Portread o Piloto y trydydd. Teyrnged gan ffrind.

Wrth i ffon y tŷ ganu’r diwrnod hwnnw, roedd hi fel petai’n dod a dôn o ddisgwyliad a llawenydd y dyfodol hefo hi. Taid oedd yna. ‘Dewch’, meddai. ‘Dewch rŵan, a gweld y syrpréis sydd yma i chi’. Felly, yn ôl fy arfer, pryd bynnag yr oedd taid yn galw, gadewais bob dim a rhedeg i’w gartref. Roeddwn yn 21 ar y pryd. Roedd nain wedi marw’r flwyddyn gynt, ac roedd ei hymadawiad wedi ein gadael ni, fi a thaid, yn teimlo’n unig ac ar goll yn y byd; y tu fewn i ni thyfodd y teimlad anhydraeth o gael ein hepgor, fel ein bod ni nawr yn amddifaid ac yn bwhwman. Wrth i mi frysio i’w fflat, meddyliais beth all y sypréis fod, ac roedd awydd mawr gen i gael gwybod.

Cyrhaeddais y fflat yn ebychu, ar ôl dringo’r grisiau mewn brys. Dilynais daid i’r gegin. ‘Hoffwn i chi gwrdd â Piloto III (y trydydd)’, meddai. ‘Etifedd llinach hir o Pilotoau yn ein teulu.’

Roedd fy llygaid yn lled agored wrth i mi syllu ar y creadur bach, a oedd wrthi’n gorffwys mewn hen focs carton budur. Roedd yn anifail crwydr frown, yn crynu yn ei dwll, a’i lygaid yn ddwy farblen ddisglair. Pan mae pobl yn sôn am ‘cariad ar welediad cyntaf’, ei drem ef sydd yn dŵad i fy meddwl yn syth. Ei bregusrwydd cain yn llifo o’i lygaid, yn ddiymadferth.

Anwesais ef ar un waith. Mi roedd yn dew ac yn fudur, gyda chwain yn neidio o’i gwmpas. Yr eiliad honno, ddaeth ei fywyd i fod yn rhan o fy mywyd i. Y penderfyniad cyntaf: i alw rhai pobl i ddod i gwrdd ag ef! Fy mam, cefnder, ffrindiau gorau, cwpl o ffrindiau eraill oedd yn ci-garwyr fel fi. ‘Dewch! Cyn gynted a fedrwch chi! Mae yna rywun newydd yn ein teulu. Mae’n rhaid i chi ei gyfarfod ar unwaith!’

Dyma sut ddaeth Piloto’r Trydydd i mewn i fy mywyd. Fo oedd y trydydd mewn llinach hir o gŵn teuluol, pob un yn anifail crwydr wedi ei hachub. Mae eu stori nhw felly yn cwmpasu stori ein teulu, yn rhannol o leiaf. Mae hi wedi ei phlethu mewn i sut wnaeth y teulu pasio trwy amser a hanes, gan adeiladu ei hunaniaeth a chofion ar hyd y ffordd.

Yma, mae’n bwysig i mi ddweud fod Piloto yw’r fersiwn Portiwgaleg o ‘Bobby’. Yn yr ystyr yr oedd, ar un tro, yn un o’r enwau fwyaf poblogaidd a rhoddir ar gŵn domestig mewn cynefinoedd cymdeithasol penodol. Os awn yn ôl mewn amser, rhyw 50 i 80 mlynedd yn ôl, mae’n debyg y byddem yn ffeindio llond o gŵn hefo’r enw ‘Piloto’ ymysg y cymunedau dosbarth gweithiol, mewn ardaloedd gwledig a trefol. Fel y dywedir y Nobel o lenyddiaeth Portiwgaleg, José Saramago, yn un o’i lyfrau:

‘Enw y gall  [y ci] ei ddal heb drafferth yn syth trwy’r genynnau, fel mae’n debyg ei fod wedi bod yn achosion Fiel a Piloto.’

Mor gyffredin roedd yr enwau yma am gŵn ymysg y dosbarth gweithiol, fel tyle eu cyseiniant pasio trwy enynnau i’r cenedlaethau olynol. Mae’r enw felly yn datgelu arfer o wahaniaeth cymdeithasol ymysg grwpiau cymdeithasol: mae enwi ci yn ffordd ychwanegol o ddarganfod a gosod eich lle yn y strwythur cymdeithasol, yn yr (ang)hydbwysedd cymhleth o berthnasau pŵer.

Gan hynny, dim ond ‘Piloto’ y gall Piloto’r Trydydd cael ei henwi, ni fyddai unrhyw enw arall wedi siwtio’r rôl o fewn y teulu yr oedd yn cael ei ymestyn iddo, gan ei gwarcheidwad unig, oedrannus, gweddw. Piloto oedd yr unig enw y byddai’n ei wneud yn gwmpawd cefnogol mewn proses galaru’r hen ddyn yma, wrth iddo fwhwman trwy’r misoedd unig i ddŵad. Y ddau ohonynt yn trio, hefo’i gilydd, i clymu cofion y pobl a’r cŵ n o’r gorffennol, a throi’r gwactod a cholled oddi mewn, i fod yn lawenydd a chwerthin oddi allan.

Ond pam mai Piloto’r Trydydd oedd ei enw? Pwy oedd Piloto’r Cyntaf a’r Ail? A pam roedd hi mor bwysig i Daid ei enwi ar ôl ei ‘hynafiaid yn y rôl’?

Piloto’r Cyntaf oedd ci nith anwylaf Taid. Yn y dyddiau hynny, fel ag y maent rŵan, mi roedd rolau teulu’n niwlog, ac mi roedd y nith yma, i fy Nhaid, fel merch mewn gwirionedd. Mi roedd ei Mam chwedlonol brydferth wedi marw pan roedd hi’n blentyn ifanc. Gaeth ei gadael i gael ei magu gan Dad wnaeth ailbriodi yn fuan, i lysfam lai na chariadus, fyddai’n ei gadael i lwgu a mathau eraill o gamdriniaeth, yn debyg i’r hyn a ddigwyddith mewn storïau arswyd i blant. O’r diwedd, mi wnaeth ei Thad – brawd Taid – ymfudo i Argentina er mwyn ennill bywoliaeth, ac mi wnaeth Maria, dyna oedd ei henw, aros hefo’i ewythr (fy Nhaid) a’i deulu, a gyda hwy cafodd ei fagu nes ei bod yn oedolyn, a ddychwelodd ei Thad.

Mi roedd Piloto’r Cyntaf yn gi bach wnaeth Maria ei hachub. Mewn gwirionedd, ei brif rôl oedd rhoi cwmni i fy hen Daid, sef Taid Maria a fy Mam i. Daeth yr hen ddyn i fyw hefo’i mab a’i deulu, rhywbryd ar ôl i’w wraig farw. Roedd e wedi ei gorlethu a galar. Pob dydd byddai’n cerdded i’r fynwent, gan gymryd hefo fo ei mainc bren fach ei hun, er mwyn eistedd ger bedd ei wraig. Yno fu’n aros, o dan yr haul didrugaredd, yn syllu ar y bedd ac yn siarad…i’w wraig, i’w cof a’i enaid. Wnaeth Piloto’r Cyntaf gwastad mynd hefo fo. Gorweddai ar y llawr, yn amyneddgar, wrth i’r hen ddyn galaru. Yn aml, mi aeth y wyres fach (fy modryb) hefo fo hefyd, i gadw cwmpeini iddynt. Pasiodd yr oriau’n heddychlon; unwaith, wnaethon nhw hyd yn oed cael eu cloi mewn yn y fynwent.

Nid oedd Piloto yn aros am yr hen ddyn, fel petai eisiau iddo wneud rhywbeth arall, fel mynd yn ôl adref, neu gerdded yn y parc. Na. Yn syml, mi roedd o yna, hefo fo. Yn cadw cwmpeini iddo. Yn ddiamod yn derbyn yr hyn yr oedd yn ei wneud, yn eistedd yn ddi-baid yn y fynwent wrth siarad hefo rhywun oedd wedi marw. Yn ddiamod yn derbyn yr hyn yr oedd yn bod, hen ddyn a oedd yn mynd trwy broses galaru cymhleth, a oedd wedi colli nid yn unig ei wraig ond ei chwmpawd bywyd a’i reswm priodol am aros yn fyw. Ni wnaeth Piloto’r Cyntaf gofyn cwestiynau i’w hun am hyn i gyd, rwy’n credu. Mi aeth o, pob diwrnod, hyd yn oed o flaen ei gwarcheidwad ffrind, gan gyrraedd y fynwent ymlaen llaw gan ffeindio’r lleoliad gorau, wedi ei chysgodi o’r haul, i wario gweddill y diwrnod.

Ar ôl 6 mis, mi wnaeth fy hen-daid rhoi’r gorau i wrthsefyll, a bu farw hefyd. O alar? O dristwch? Oherwydd, yn syml, gan nad oedd am fyw rhagor? Chwech mis fydd iddo fyw heb ei wraig, fel petai’n paratoi ei hun i ymuno a hi cyn gynted ag oedd yn bosib. Ond ni all Piloto’r Cyntaf ymuno ag ef. Felly, parhaodd i fynd i’r fynwent pob diwrnod. Fel petai wedi drysu, chwiliodd am yr hen ddyn, gan orwedd wrth beth y nawr oedd yn fedd iddo. Roedd yn gwybod ei ffordd yno fel cefn ei law, wrth gwrs. Ac felly fwrdd a fo. A oedd e’n ystyried beth oedd wedi digwydd i’r hen ddyn? Neu a oedd e’n gwybod? Fu farw Piloto’r Cyntaf o henaint, yn y diwedd. Mae beth ddigwyddodd i’w gorff yn ansicr, ond yn ôl yr arfer ar y pryd (y 1950au yn Portiwgal) mae’n debyg y byddai wedi cael ei chladdu yn y goedwig ger llaw. Dyma oedd Piloto’r Cyntaf.

Ar ôl ddim ond ychydig flynyddoedd, daeth Piloto’r Ail i mewn i fywyd y teulu. Mi roedd ef hefyd yn gi roeddem wedi ei hachub, a chafodd ei roi i fy modryb a oedd yn 5 i 6 mlwydd oed, fel anifail anwes. Ond erbyn y diwedd, mi roedd yn anifail anwes i bawb. Arhosodd am oriau yn siop goffi fy nhaid, gan ddifyrru cwsmeriaid, a oedd yn barod yn ei nabod ac yn ei thrysori. Wnaeth iddyn nhw chwerthin hefo’i phranciau, a byddent yn prynu iddo foethau afiach, megis fferins, fel modd i borthi ef am y llawenydd ag ysbryd da yr oedd yn ei ddarparu. Hefyd, yn y stori y mae fy nheulu dynol ryw wedi dweud ac ail-ddweud amdano dros y blynyddoedd, byddai’n gwrando am gar Maria (nith fy Nhaid, cofia?) tra roedd hi’n sawl kilometr o’r dref. O bawb, mi roedd yn ei charu hi. Ac mi roedd hi’n ei garu ef. Pob tro ddaeth draw, mi roedd fel tasent nhw heb weld ei gilydd am hydoedd. Yn y pen draw, mi wnaeth Piloto’r Ail hefyd farw o henaint. Mae tynged ei gorff hefyd yn ansicr. Mi wnaeth y teulu galaru, yn bennaf trwy ei chofiannau wedi ei hadrodd ar lafar, ar draws y cenhedloedd. Dyma oedd Piloto’r Ail.

Mi wnaeth gymryd fy Nhaid tua 40 mlynedd i gymryd ‘Piloto arall’. Oherwydd bod Piloto yn y teulu’n cario hefo fo, er gwaetha’r ffaith nad oeddent yn ymwybodol o’r beth, cofion cyfan hynafiaid yr enw, er nad oedd hyn trwy waed. Ac mi roedd y weithred o gymryd ‘Piloto arall’ i mewn i’r teulu yn galw ar y bodau dynol yn y teulu i fyw hefo fo, gan gynnwys yr ewyllys a’r gallu emosiynol i fyw hefo’r unigolyn penodol yna, ond hefyd i fyw hefo’r cofion byw am y rhai fuodd cynt. Yr allu emosiynol i ddioddef y rhwyg o reolau mewn amser llinellol, a’r aflonyddwch o ffigyrau’r gorffennol sy’n cyd-fyw mewn modd fwy neu lai mewn cytgord hefo’r rhai sy’n byw yn y presennol.

A dyma le mae Piloto’r Trydydd yn dod i mewn i’r stori. Yn ystod flwyddyn olaf o fywyd fy Nhaid, mi roedd Piloto’r Trydydd yn cymar llawn iddo. Wnaeth heriau cael ci bach taro bywyd Taid yn fuan iawn wedyn. Daeth trefn cwbl newydd i oresgyn ei ddyddiau, yn dreiddiol. Roeddent yn gadael y tŷ yn fuan iawn yn y bore, i Piloto gael mynd i’r tŷ bach. Ac oherwydd bod yna cymaint o risiau i’w ddringo yn ôl i gyrraedd y fflat, roedd Taid yn aml yn gadael Piloto tu allan, yn yr ardd, pan aeth am goffi, papur newydd boreol, neu yn syml am dro. Hefyd, mi roedd Piloto braidd yn ffoadur ei hun: fuodd yn aml yn dianc ac yn rhedeg trwy’r dref, hefo’i gang o gŵn crwydrol, gan ddychwelyd gyda beth oedd yn edrych fel gwen ddigywilydd, ddim yn difaru o gwbl am y poeni yr oedd wedi achosi i Daid. Yna byddai’n cyrlio’i hun wrth droed ei wely, gan chwyrnu’n ddwfn mewn byd o freuddwydion a hunllefau, lle fedrwn dal clywed ôl ei anturiaethau o helfa neu ymladd hefo cŵn eraill.

Pan fu farw Taid, dwy flynedd ar ôl i Nain farw, ac un flwyddyn ar ôl i Piloto dŵad i mewn i’r teulu, roedd gen i fy nedfryd yn barod. Sawl gwaith, ar ôl pob cinio Sul, fu Taid yn datgan fod Piloto yn etifeddiaeth i fi a fy Mam. Hyd yn oed os nad oedd wedi ei ddatgan, dyma oedd fod i ddigwydd. Oherwydd, ers y diwrnod cyntaf, mi roedd Piloto wedi glynu ataf mewn ffordd mor benodol, fel roeddwn yn gwybod na fedrwn ni byth cael ein gwahanu. Roeddem fel dau llongddrylliedig o ryw gof o long wedi ei boddi. Hefo’n gilydd, mi roedden ni yn rhyddhau ein hunain o’r poen o golled, a’r anobaith o ddioddef y gwagle ac unigrwydd sydd yn ei ddilyn.

Am 13 mlynedd arall, fu Piloto yn byw hefo fi. Mi roedd cadw fe tu fewn yn dalent. Fuodd yn aml yn aros allan trwy’r nos gan ddŵad yn ôl yn y bore, wedi blino’n lan ac yn allananadlu’r arogl o ryddid. Ond mae hynna’n stori arall, i gael ei hadrodd rhywbryd arall: stori o fywyd Piloto, yn y blynyddoedd i ddod. Heddiw, mi wnawn ni cadw at bwysigrwydd iddo fod yn Piloto (un ohonynt).

Mi wnaeth ddysgu pob dim i mi am gariad, cysylltiad, rhyddid, parch i’r Arall, ofn o golled, poen a salwch, ac yn y diwedd y ffaith fod hi ddim yn bosib dianc rhag marw. Roedd o yn borth i mi at lawenydd a byw yn ystyriol yn y foment; ac i orffennol fy nheulu, a fwy na dim, yr atgof o Daid y tu fewn i mi. Am 13 mlynedd ymhellach, nes cafodd ei rhoi i gysgu yn 14 mlwydd oed, cadwodd Piloto Taid yn fyw, a gyda fe, yr holl storïau roedd yn ei hadrodd drosodd a drosodd, am ‘Piloto a’i hynafiaid’. Doedd hi ddim tan ei farwolaeth ef y daeth fy mhroses galaru am fy nhaid i derfyn. Roedd galaru am Piloto, yn y blynyddoedd wnaeth ddilyn, yn broses cymhleth ac mi roedd llond o bobl a phethau eraill yn cael ei galaru ar yr un pryd. Lle’r oedd yn bosib i’r presennol dod i delerau â’r gorffennol, a’r posibiliad o ddyfodol hefo’r baich o atgofion teuluol. Golygai dysgu sut i fyw heb rhai o’r clustfeini pwysicaf yn fy mywyd. Hefo synnwyr o ryddid oedd braidd yn frawychus a gyffroes. Ac mi roedd hynny yn rhan o’r pwysigrwydd o fod yn Piloto (un ohonynt).

Nodyn am Piloto

‘Enw y gall o ei ddal heb drafferth yn syth trwy’r genynnau, fel mae’n debyg ei fod wedi bod yn achosion Fiel a Piloto.’ José Saramago, O Homem Duplicado [Y dwbl]. Wedi ei ysgrifennu gan law ar orchudd cefn llyfr nodiadau hefo negeseuon o gydymdeimladau.

Author: saralouisewheeler

Yr wyf yn colofnydd i papur bro Wrecsam sef: Y Clawdd.

Leave a comment