Hen freichled pishyn tair fy nhad (gydag ymddiheuriadau i Merêd!)

Freichled pishyn tair

For an English version of this essay, please click on the link here.

Dwi ddim yn un am ddilyn ffasiwn, boed e’n bwnc, persbectif neu fethodoleg ysgolhaig, cerddoriaeth, neu ddillad. Nid yw’n syndod felly, fod fy hoff ddarn o emwaith yn rhywbeth ddigon anghyffredin – eiddo etifeddol o ryw fath, a ganddi fwy o werth sentimental nag ariannol; hen freichled pishyn tair fy nhad.

Yn ystod yr ail ryfel byd, fuodd fy nhaid, Edward Glyn Edwards (Glyn), allan yn yr Almaen am flynyddoedd cynnar bywyd fy nhad. Cyn iddo ddychwelyd, cafodd freichled ei wneud iddo fel anrheg. Mae strap y freichled wedi ei wneud o geiniogau pishyn tair, wedi eu bachu gyda’i gilydd mewn rhes. Yna, yng nghanol yr arddwrn, mae plât arian hefo enw cyntaf fy nhad arno, sef Raymond.

Nawr ta, ganwyd a magwyd fy nhad ym mhentref Rhosllannerchrugog yn ystod y 1940au. Ar yr adeg yma, mi roedd pyllau glo niferus yr ardal yn dal i ffynnu, yn ogystal â’r diwydiant brics coch enwog yn Rhiwabon gerllaw, ac o ganlyniad mi roedd y pentref yn llewyrchus. Mae’r pentref yn adnabyddus, yn y cyfnod yma, am ei ddiwylliant traddodiadol ardal glo, megis yr hyn a sgwennwyd amdani gan Dennis Potter am ardal ‘The Forest of Dean’ – hynny ydy: cymuned glôs hefo corau, capeli, chwarae bowls, a thafodiaith unigryw i’r ardal.

Mae mater y dafodiaith yn un sydd o ddiddordeb mawr i mi, gan fy mod innau yn ei siarad (i raddau beth bynnag), ac mi fydd hyn yn destun traethawd arall yn y dyfodol; ond y peth pwysig yma yw ei bod hi’n dafodiaith Cymraeg. Yn wir, Cymraeg oedd iaith bywyd pob dydd y gymuned pan ganwyd fy nhad, ac ni ddechreuodd ddysgu Saesneg nes iddo fynychu’r ysgol.

Enwau Saesneg i blant Cymraeg?

Felly, os ystyriwn mai Cymraeg oedd iaith y gymuned, a bod rhieni fy nhad hefo enwau fyddai’n cael ei ystyried yn ‘Gymraeg’, sef Alwen a Glyn, pam felly rhoddwyd yr enw ‘Raymond’ i fy nhad? Yn ôl pob sôn (Wikipedia), benthycwyd yr enw Raymond i mewn i’r Saesneg o’r Ffrangeg, a hithau’n wreiddiol o’r Almaeneg; felly nid yw’n enw Gymraeg nag yn un sy’n gysylltiedig â’r ardal.

Wel medde chwi, efallai roedd ei rieni yn nabod rhywun o’r enw Raymond, neu wedi ei ddarllen yn rhywle – megis enw cymeriad mewn llyfr, neu jest yn ei hoffi? Ond galwyd fy modryb, chwaer fy nhad, yn ‘Brenda’, sydd, yn ôl pob sôn (Wikipedia) yn enw a rhoddir yn yr iaith Saesneg (er, trwy baratoi at yr erthygl yma, gwelais fod Brenda yn chwedl Madoc, felly efallai fod yna wreiddiau fwy Cymraeg i hyn).

Os ystyriwn fod llond o ffrindiau ysgol fy nhad o’r ardal hefyd hefo enwau fyddai’n indecsio am Saesneg, megis Richard a John, mae’n edrych yn fwy tebygol fod yna rhyw batrwm enwi penodol yn ystod y cyfnod yma, yn hytrach na chwimsi fy nain a thaid.

Yn anecdotaidd, fyswn yn cynnig fod yna batrwm i’w weld dros y cenedlaethau, lle’r oedd gan genhedlaeth nain a thaid enwau tra Gymraeg, yna dechreuodd patrwm o enwau tra Saesneg, a pharodd tan rywbryd yn ystod yr wythdegau, lle fuodd, efallai, shifft, ac yna gwelsom enwau fwy Cymraeg yn dod yn fwy poblogaidd ac amlwg. Erbyn heddiw, mae yna lond o blant a phobl ifanc hefo enwau tra Gymraeg. Mae’n debyg fod y tuedd, a’r cyfnod, yn amrywio o ardal i ardal.

Un esboniad posib am y tuedd, yw bod y Gymru Gymreig, ar adeg benodol, mewn ardaloedd penodol, wedi penderfynu rhoi enwau fwy Saesnegaidd i’w plant, er mwyn iddynt gael ffitio mewn a ‘dod yn ei blaenau’ i ffynnu. Wedi’r cwbl, mae yna gyfnodau yn ein hanes pan roedd llond o’r Cymry Cymraeg yn symud dros y ffin a thu hwnt, er mwyn cael gwaith a bywyd gwell i’w hunain, felly mae’n gwneud synnwyr y byddent eisiau addasu eu henwau i’w amgylchiadau newydd. Hefyd, ers y deddfau uno yn 1536 a 1543, mi roedd y system tadenwol yn raddol wedi ei disodli gan gyfenwau yn y system Saesneg – felly fysai ab Owen yn troi’n Bowen (Rowlands & Rowlands, 2013, tudalen 9-29). Felly fyddai newid enwau cyntaf yn barhad o’r tuedd yma.

Penderfyniadau pragmataidd cymunedau lleiafrifol ieithyddol a diwylliannol?

Mae rhywfaint o gefnogaeth am y syniad yma os ystyriwn batrymau enwi mewn cymunedau lleiafrifol eraill. Er enghraifft, wrth drafod gwaith a hunaniaeth Stanley Kubrick, y cyfarwyddwr ffilm Iddewig o Efrog Newydd, mae Abrams (2018) yn trafod y ffaith fod mewnfudwyr Iddewig i America wedi addasu eu henwau er mwyn ffitio mewn. Mi roedd rhieni Kubrick yn rhan o’r tuedd yma, gyda thad Kubrick yn newid ei enw Iddewig ‘Jacob’ i ‘Jack’ (tudalen 2). Yn ôl Abrams, mi roedd yna hefyd tuedd i’r mewnfudwyr yma dewis enwau ‘brenhinol’, i’w plant, megis ‘Stanley’ neu ‘Leonard’, er mwyn gwella cyfleon eu meibion am fudoledd cymdeithasol (tudalen 223).

Gallwn wedyn ystyried, eto’n anecdotaidd, fod y tuedd wedi troi’n wyneb i waered, i raddau – o leiaf o safbwynt enwau Cymraeg beth bynnag. Fyddwn yn dadlau ein bod yn gweld fwy o blant heddiw yn cael enwau cyntaf tra Gymraeg, gyda rhieni yn dangos balchder yn eu Cymreictod wrth benderfynu ar enwau i’w plant. Hefyd, efallai fod oedolion yn penderfynu gwneud y gwrthwyneb i’r hyn a wnaeth Jacob Kubrick, sef Cymreigio eu henwau, megis Stephen i Stifyn, Rebecca i Beca ayyb.

Yn ddiddorol iawn, mae’n debyg fod y fraint a’r cyfleoedd hefyd wedi digwydd y ddwy ffordd. Felly, lle fyddai enwau ‘brenhinol’, a hefyd fyddwn yn ychwanegu ‘yn indecsio am Saesneg’, yn rhoi rhywfaint o ‘fraint’ a ‘cyfle’ i blant Iddewig/ Cymraeg ar un cyfnod ac mewn rhai cyd-destunau, efallai nawr mae’r enwau Iddewig/ Cymraeg yma yn ennyn yr un math o freintiau a chyfleon. Teimlaf hyn yn bersonol, wrth i mi newid fy nghyfenw o ‘Edwards’ i ‘Wheeler’, a’r ymateb rwy’n ei chael fel ‘Cymraes’ – ond mae hyn yn destun traethawd ar ben ei hun (ar y gweill!)

Ymchwil onomasegaidd mewn cyd-destun Cymraeg

Dyma’r math o faterion yr wyf wedi ei thrafod a’i ystyried yn fy erthygl cyfnodolyn diweddaraf:

“Enwau Prydeinig gwyn?” Problematizing the idea of “White British” names and naming practices from a Welsh perspective.

Mae’r linc i’r erthygl gyhoeddedig yma, ond mae angen cyfrinair prifysgol i gael mynediad, felly medrwch hefyd cael mynediad at y fersiwn cyn-fformatio yn rhad ac am ddim yma.

Ond yn amlwg, beth sydd angen rŵan, ar y mater penodol yma, yw gwaith ymchwil meintiol sydd yn mapio’r patrymau enwi dros y cenhedloedd perthnasol, i weld os oes batrymau esboniadwy; rwy’n gobeithio gwneud cais grant i archwilio’r mater ymhellach a byddai diddordeb gen i mewn clywed gan unrhyw un fyddai hefo diddordeb mewn gweithio ar hyn hefo fi. Hoffwn hefyd clywed eich syniadau yn gyffredinol – ydych chi’n cytuno, anghytuno, neu hefo syniadau tebyg/ cwbl wahanol? Mae fy nghyfeiriad e-bost ar y tudalen cyswllt, neu mi fedrwch adael sylwad ar ddiwedd y traethawd yma, i ni gael cychwyn trafodaeth.

Hen feic peni-ffardding, hen freichled pishyn tair…

Felly yn ôl at y freichled pishyn tair, a gwelwn ei fod yn arteffact diwylliannol o batrymau neu duedd posib o fewn traddodiadau enwau ac enwi Cymraeg. Ac, i’w glymu yn ôl at y mwysair yn deitl y blog am y gân ‘Hen feic peni-ffardding fy nhaid’1, mae’n symbolaidd o’r ffaith fy mod innau, fel y cymeriad yn y gân, yn tueddu i ffafrio nwyddau a thraddodiadau hen ffasiwn, yn hytrach na dilyn y dorf!

Nodiadau

  1. Sgwennwyd gan Meredydd Evans – ‘Merêd’.

 

Llyfryddiaeth

Abrams, N. (2018) Stanley Kubrick: New York Jewish Intellectual. New Brunswick, Camden, and Newark, New Jersey, and London: Rutgers University Press.

Amgueddfa Cymru (no date) Tafodiaith Rhosllannerchrugog. Ar gael: https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2011-03-29/Tafodiaith-Rhosllannerchrugog/ (Cyrchwyd: 13 Awst 2015).

Jones, Mari, C. (1998) ‘Case Study II: The Rhosllannerchrugog Dialect’, in Language Obsolescence and Revitalization: Linguistic change in two sociolinguistically contrasting Welsh communities. Oxford: Clarendon press, Tud. 155–238.

Potter, D. (1996) The Changing Forest: Life in the Forest of Dean Today. London: Vintage.

Rowlands, J. and Rowlands, S. (2013) The Surnames of Wales – updated and expanded. Ceredigion: Gomer Press.

Wheeler, S. L. (2018) ‘“Enwau Prydeinig gwyn?” Problematizing the idea of “White British” names and naming practices from a Welsh perspective’, AlterNative: An International Journal of Indigenous Peoples, July 23rd, pp. 1–9.

Wheeler, S. L. (2018) ‘“Enwau Prydeinig gwyn?” Problematizing the idea of “White British” names and naming practices from a Welsh perspective’, AlterNative: An International Journal of Indigenous Peoples, Cyn-formatt, mynediad am ddim heb cyfrif.

Advertisements

Awdur: saralouisewheeler

Yr wyf yn colofnydd i papur bro Wrecsam sef: Y Clawdd.

Un awgrym ar “Hen freichled pishyn tair fy nhad (gydag ymddiheuriadau i Merêd!)”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s